Diweddariad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Annwyl gyfaill

 

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig

Rydym wedi lansio ymchwiliad i gefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig. O ganlyniad i gymhlethdod y materion hyn a'r amrywiaeth eang o gyflyrau cronig a all fod ar bobl, rydym yn defnyddio dull dau gam ar gyfer ein gwaith.

 

Yn ystod cam 1, byddai’n dda gennym gael eich help i nodi'r themâu a'r materion allweddol y dylem ganolbwyntio arnynt.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Iau 25 Mai 2023. Mae’r cylch gorchwyl llawn – a gwybodaeth am sut i ymateb i’n hymgynghoriad – ar gael ar ein gwefan.

 

Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: Gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol

Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio priodol mewn wardiau ysbytai meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion, a wardiau pediatrig.

 

Rydym wedi cytuno i gynnal ymchwiliad craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Ddeddf.

 

Byddwn yn lansio ymgynghoriad yn nhymor yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn y darn hwn o waith ac yr hoffech i ni gysylltu â chi pan fyddwn yn lansio'r ymchwiliad hwn, rhowch wybod i ni.

 

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Cafodd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ei gyfeirio atom at ddibenion gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ym mis Ebrill, cyn y ddadl Cyfnod 1 ar 9 Mai 2023.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol ar wefan y Senedd.

 

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru, ar 20 Chwefror 2023.

 

Bydd y Senedd yn trafod ein hadroddiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 3 Mai 2023. Bydd y ddadl yn cael ei darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac ar gael i wylio ar gais, wedyn.

 

Gwasanaethau endosgopi: Ymchwiliad dilynol

Rydym wedi bod yn cynnal ymchwiliad byr i wasanaethau endosgopi i ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen er mwyn rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, lleihau amseroedd aros ac – yn y pen draw – gwella canlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi.

 

Gwnaethom ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 10 Mawrth 2023. Rydym wedi gofyn am gael ymateb erbyn 25 Ebrill 2023.

 

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24

Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 ar 6 Chwefror 2023. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymateb ar 7 Mawrth 2023.

 

Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Gwnaethom gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rôl hon – sef Jonathan Morgan – ar 2 Mawrth 2023.

 

Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar 6 Mawrth 2023.

 

Gwaith arall y Pwyllgor

Disgwylir i’r canlynol fod ymhlith ein gwaith yn ystod tymor yr haf:

-      Cam 2 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (yn amodol ar y Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol a’r penderfyniadau ariannol ar gyfer y Bil).

-      Tystiolaeth lafar ar ein ymchwiliad i ganserau gynaecolegol.

-      Yr adroddiad terfynol ar y gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Gallwch ddod o hyd i fanylion am waith y Pwyllgor hyd yn hyn – ynghyd â'i flaenraglen waith – ar ein gwefan.

 

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ar Twitter yn @seneddiechyd.

 

Rydych yn cael yr e-bost hwn gan eich bod wedi gofyn yn flaenorol am gael gwybod am ymchwiliadau newydd y Pwyllgor.

 

Os nad ydych am gael yr hysbysiadau hyn mwyach, rhowch wybod inni drwy anfon neges at: SeneddIechyd@senedd.cymru

 

Health and Social Care Committee update

Dear colleague

 

Supporting people with chronic conditions

We’ve launched an inquiry into supporting people with chronic conditions. Because of the complexity of these issues and the wide range of chronic conditions people may experience, we’re approaching our work in two stages.

 

During stage 1 we would like you to help us by identifying the key themes and issues we should focus on.

 

The deadline for responses is Thursday 25 May 2023. The full terms of reference, and information about how to respond to our consultation, are available on our website.

 

Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016: post-legislative scrutiny

The Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016 requires health boards to calculate and maintain appropriate nurse staffing levels in adult acute medical and surgical hospital wards and paediatric ward.

 

We’ve agreed to hold a post legislative scrutiny inquiry on the Act.

 

We will be launching a consultation in the summer term. If you’re interested in this piece of work and would like us to contact you when we launch this inquiry, please let us know.

 

Health Service Procurement (Wales) Bill

The Health Service Procurement (Wales) Bill was referred to us for Stage 1 scrutiny of the general principles of the Bill. We will publish our report in April, before the Stage 1 debate takes place on 9 May 2023.

 

You can find more information about the legislative process on the Senedd’s website.

 

Mental health inequalities

The Welsh Government responded to our report on tackling mental health inequalities in Wales on 20 February 2023.

 

The Senedd will debate our report in plenary on Wednesday 3 May 2023. The debate will be broadcast live on Senedd.tv, and available to watch on demand afterwards.

 

Endoscopy services: follow up inquiry

We have been holding a short inquiry into endoscopy services to consider what further action is needed to implement the national endoscopy action plan, reduce waiting times, and ultimately improve patient outcomes and survival rates.

 

We wrote to the Minister for Health and Social Services on 10 March 2023. We’ve requested a response by 25 April 2023.

 

Welsh Government’s draft budget 2023-24

We published our report on the Welsh Government's draft budget 2023-24 on 6 February 2023. The Welsh Government responded on 7 March 2023.

 

Pre-appointment hearing for the role of Chair of Cwm Taf Morgannwg University Health Board

We held a pre-appointment hearing with the Welsh Government’s preferred candidate for this role, Jonathan Morgan, on 2 March 2023.

 

We published our report on 6 March 2023.

 

Other Committee activity

Our work during the summer term is expected to include:

-      Stage 2 of the Health Service Procurement (Wales) Bill (subject to the Senedd agreeing the general principles and financial resolution for the Bill)

-      Oral evidence on our inquiry into gynaecological cancers

-      Oral evidence on the evaluation of the Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014

 

You can find details of our work to date, and our upcoming work programme on our website.

 

You can also keep up with the Committee’s work by following us on Twitter at @seneddhealth.

 

You are receiving this email as you have previously asked to be notified of new Committee inquiries.

 

If you no longer wish to receive these notifications, please let us know at SeneddHealth@senedd.wales.